Profile avatar
newyddion.s4c.cymru
Y newyddion a’r straeon gorau o Gymru a'r Byd. Os oes gennych chi stori, cysylltwch â’r tîm 💻📱➡️ [email protected]
2,727 posts 1,819 followers 114 following
Prolific Poster

🗣️👗 'Mae'n bwysig fod merch yn gallu expressio ei hun drwy'r ffordd mae hi'n dewis gwisgo' Mae un o wynebau cyfres 'STRIP' ar S4C wedi dweud fod ffordd i fynd wrth addysgu rhai dynion sut mae ymddwyn yn briodol tuag at fenywod. newyddion.s4c.cymru/article/28736

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a fan mewn tref yn Rhondda Cynon Taf. newyddion.s4c.cymru/article/28852

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod achos o haint cryptosporidium ymhlith pobl wnaeth ymweld â siop fferm yn y Bont-faen, ym Mro Morgannwg, wedi dod i ben. newyddion.s4c.cymru/article/28865

Mae’r gwasanaeth tân wedi dweud eu bod yn mynd i'r afael â 'digwyddiad mawr' wedi i gerbyd fynd ar dân yn Nhwnnel Conwy brynhawn ddydd Iau. newyddion.s4c.cymru/article/28862

Mae llys wedi clywed bod cwpl sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr dwy oed wedi curo eu plant. newyddion.s4c.cymru/article/28856

Mae dyn wnaeth dorri trwyn cogydd mewn bwyty yn Ynys Môn wedi cael dedfryd o naw mis yn y carchar wedi ei ohirio am flwyddyn

‘Rydym mor falch o bopeth rydym wedi'i gyflawni’ Fe fydd bwyty poblogaidd Sheeps and Leeks yng Nghaernarfon yn cau ei ddrysau o ddiwedd mis nesaf. newyddion.s4c.cymru/article/28847

🗣️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Llongyfarchiadau i Leanne Parry, Rachel Bedwin, Hammad Hassan Rind a Lucy Cowley sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Wrecsam

Fe fydd dau berson yn ymddangos yn y llys ddydd Iau wedi i fachgen 15 oed gael ei saethu.

⚽️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Llongyfarchiadau i'r 23 chwaraewr fydd yn cynrychioli Cymru yn yr ymgyrch hanesyddol UEFA Euro 2025 yn y Swistir fis nesaf: newyddion.s4c.cymru/article/28845

🥵☀️ Cofiwch eich eli haul! Mae disgwyl i'r tymheredd godi i dros 31 gradd selsiws yng Nghymru dros y dyddiau nesaf

⚽⛰️ Fe fydd Rhian Wilkinson yn cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Euro 2025 ar gopa'r Wyddfa bore ‘ma - pwy hoffwch chi weld yn cynrychioli Cymru yn y Swistir fis nesaf?

🩷 ’Ma' profiad pawb mor wahanol’ Roedd hi mor bwysig i drin stori ganser Lowri yn y gyfres deledu Rownd a Rownd ‘efo'r parch mae'n haeddu’ yn ôl yr actores sy'n portreadu'r cymeriad

Mae disgwyl oedi eto y tu hwnt i 2033 cyn y bydd rheilffordd HS2 yn agor gyda phris y rheilffordd eisoes wedi cynyddu £37bn rhwng 2012 a’r etholiad cyffredinol y llynedd. newyddion.s4c.cymru/article/28836

Mae seren a chyd-greawdwr y gyfres deledu Gavin and Stacey, Ruth Jones, a'i gŵr, y cynhyrchydd David Peet, wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi gwahanu. newyddion.s4c.cymru/article/28844

🏉 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Fe fydd prif hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, yn enwi capten newydd ar gyfer taith tîm menywod Cymru i Awstralia a Chwpan Rygbi’r Byd. newyddion.s4c.cymru/article/28841

🎥 Mae platfform digidol Am yn lansio gŵyl ffilm ddigidol i ddathlu pum mlynedd ers cael ei sefydlu. newyddion.s4c.cymru/article/28828

Mae dyn yn ei arddegau wedi cyfaddef achosi anaf drwy yrru'n beryglus ar ôl i'w gar daro i mewn i faes pebyll yn Niwgwl yn Sir Benfro ym mis Awst, 2023. newyddion.s4c.cymru/article/28842

🦁🏉 Llongyfarchiadau i Jac Morgan a Tomos Williams sydd wedi eu cynnwys yng ngharfan y Llewod ar gyfer gêm agoriadol y daith yn erbyn Yr Ariannin nos Wener.

Mae'r band Kneecap wedi gosod posteri ar draws Llundain i gefnogi un o'u haelodau wnaeth ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o drosedd yn ymwneud â therfysgaeth. newyddion.s4c.cymru/article/28835

Mae cwest wedi clywed bod dwy chwaer gafodd eu tynnu o byllau dwr ger yr Wyddfa wedi boddi. newyddion.s4c.cymru/article/28839

‘Nid oes unrhyw gofnodion yn egluro’r penderfyniad’ Bydd camgymeriad cyfieithu ar arwydd yn Sir Fynwy sydd wedi bod yn ei le am ddegawd yn cael ei gywiro yn dilyn cwyn. newyddion.s4c.cymru/article/28837

'Mae'n greulondeb ac mae'n rhaid iddo ddod i ben’ Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid mesur gan AS o Gymru i beidio gwneud erthyliad yn drosedd yng Nghymru a Lloegr. newyddion.s4c.cymru/article/28834

Mae amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol plant yng Nghymru yn ‘anghynaladwy’, yn ôl meddygon

⚽ Bydd Y Seintiau Newydd, Hwlffordd a Phen-y-bont yn chwarae yn Ewrop mis nesaf, ond pwy fydd eu gwrthwynebwyr?

👑🪑 Dyma olwg ar y Goron a’r Gadair ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni. Cafodd y ddau eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni yng Ngholeg Cambria nos Fawrth

'O'n i'n yr ysbyty ag o'n i'n crio, crio, crio.' Mae aelodau grŵp cymorth i bobl sy’n byw gyda ffibromyalgia yn Sir Ddinbych yn honni nad ydi rhai meddygon yn cymryd cleifion o ddifrif.

'Oni’n treulio mywyd yn eistedd ar y soffa yn crio.' Mae aelodau grŵp i bobl sy’n byw gyda ffibromyalgia yn Sir Ddinbych yn honni nad ydi rhai meddygon yn cymryd cleifion 'ddigon o ddifrif'. newyddion.s4c.cymru/article/28831

🪑👑 Mae Cadair a Choron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wedi eu dadorchuddio

⚽ Bydd Y Seintiau Newydd, Hwlffordd a Phen-y-bont yn chwarae yn Ewrop mis nesaf, ond pwy fydd eu gwrthwynebwyr?

💔 'Fe wnaethon ni sylweddoli efallai ei fod wedi bod yn gorwedd yno yr holl amser.' Fe wnaeth tîm achub mynydd ddarganfod corff dau ddyn oedd wedi mynd ar goll 12 mlynedd ar wahan yn yr un lle. newyddion.s4c.cymru/article/28819/

Mae cyn-AS Ceidwadol dros Ben-y-Bont ar Ogwr wedi pledio'n euog i aflonyddu ar eu cyn-wraig

Mae dedfryd menyw 71 oed a wnaeth achosi marwolaeth babi drwy yrru’n beryglus yn Sir Benfro wedi cael ei lleihau

Ni fyddai myfyrwraig yng Nghaerdydd wedi marw o sepsis pe bai wedi derbyn gofal meddygol brys mwy prydlon, meddai crwner

‘Mae ‘di cymryd blynyddoedd i fi jyst siarad amdan hyn’ Mae cantores o Wrecsam yn galw am drafodaethau agored am heintiau sy’n cael eu trosglwyddo yn rhywiol ar ôl dal herpes gan ddyn wnaeth ddim dweud wrthi fod ganddo'r feirws

Mae bachgen 15 oed wedi’i gyhuddo o rannu gwybodaeth am fom ffug mewn parc yn Rhondda Cynon Taf. newyddion.s4c.cymru/article/28817

Mae’r seren deledu, Kim Woodburn, wedi marw yn 83 oed wedi salwch byr newyddion.s4c.cymru/article/28815

😢 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Mae'r Cymro Stevie Williams wedi cyhoeddi na fydd yn cymryd rhan yn y Tour de France eleni oherwydd anaf newyddion.s4c.cymru/article/28814

Mae disgwyl i feddyg o Galiffornia sydd wedi ei gyhuddo o roi cetamin i'r actor Matthew Perry yn yr wythnosau cyn iddo farw o or-ddos bledio yn euog

Mae person yn yr ysbyty gydag anafiadau all newid ei fywyd yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys yr wythnos diwethaf. newyddion.s4c.cymru/article/28808

Mae dyn wedi cael ei garcharu am 10 mlynedd ar ôl taro dau gerddwr gyda char yng Nghaerdydd. newyddion.s4c.cymru/article/28810

Mae gangiau sy'n cam-drin plant yn rhywiol yn broblem systemig yng Nghymru yn ôl dirprwy brif weithredwr y corff 'Voices from Care Cymru'. Daw sylwadau Helen Mary Jones wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi ymchwiliad statudol llawn i gangiau cam-drin plant yng Nghymru a Lloegr.

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi penodi Brian Barry-Murphy fel ei rheolwr newydd

Mae dwy ddynes 25 a 29 oed a fu farw ar ôl cael eu darganfod mewn pyllau dŵr ger yr Wyddfa nos Fercher wedi eu henwi. newyddion.s4c.cymru/article/28804

🏉 A fyddwch chi'n cefnogi'r Llewod ar eu taith i Awstralia? newyddion.s4c.cymru/article/28800