Profile avatar
golwg.360.cymru
Newyddion, materion cyfoes, chwaraeon a chelfyddydau. https://golwg.360.cymru
1,231 posts 727 followers 7 following
Prolific Poster

‘Rhaid cwblhau pob dyletswydd yn ymwneud â’r Wyddeleg’ Daw sylwadau’r mudiad Conradh na Gaeilge wrth i Lywodraeth Iwerddon gyhoeddi eu Rhaglen Lywodraeth

Plaid Cymru am bleidleisio yn erbyn Cyllideb Llywodraeth Lafur Cymru Yn ôl Heledd Fychan, llefarydd cyllid Plaid Cymru, all y Blaid ddim cefnogi Cyllideb sy’n “methu cwrdd â maint yr heriau sy’n wynebu’r wlad” #gwleidyddiaeth

Mel Owen “Beth oedd fwyaf hwyl oedd cwrdd â’r ‘wing women’ yma ym mhob cornel o Gymru a gweld fersiwn nhw o’u tref nhw” #CylchgrawnGolwg ✍️ Efa Ceiri

Gillian Elisa yn cofio’i “ffrind ffyddlon” Marged Esli Bu farw’r actores, cyflwynwraig ac awdures Marged Esli fore Sadwrn (Mawrth 1) yn 75 oed ✍️ Efa Ceiri

Y Cymry yn teithio i’r Alban yn hapusach eu byd Yr Alban fydd y ffefrynnau, ond mae yna obaith i Gymru nad oedd yno bythefnos yn ôl #CylchgrawnGolwg ✍️ Seimon Williams

Albanwr yn barddoni am y Cymry cyffredin “Mi’r oedd yn daith ar fy mhen fy hun, lle ces i gwrdd â phobol gyffredin, a gwneud y gorau o’r profiad” #CylchgrawnGolwg ✍️ Non Tudur

Apêl democratiaeth yn gwegian Y neges i fy nghyfoedion yw ‘rhaid cadw’r ffydd, nid oes gan yr unben ateb i’ch problemau’ #CylchgrawnGolwg ✍️ Malachy Edwards

Cyn-wraig fy ngŵr yn alcoholig afresymol “Os na fydd y sefyllfa’n gwella, efallai y bydd angen i chi feddwl am drefniadau mwy ffurfiol ar gyfer ymweliad y plant â’u mam” #CylchgrawnGolwg #gairogyngor ✍️ Wynford Ellis Owen

Os am gael heddwch, rhaid paratoi ar gyfer rhyfel Mae’r gwallgofddyn yn y Tŷ Gwyn wrthi’n bygwth taflu Ewrop o dan fws, yn unol â’i agenda ‘America yn gyntaf’ #CylchgrawnGolwg ✍️ Huw Onllwyn

Lili yn cwrdd â’i harwyr Aeth Lili adref yn hapus wedi cael y cyfle i gwrdd â rhai o’i harwyr, ond roedd yna well i ddod #CylchgrawnGolwg ✍️ Phil Stead

Zelensky, Trump a Vance Maen nhw wedi bod yn braenaru’r tir ar gyfer y sioe yma, sy’n cael ei pherfformio mewn ystafell hirgrwn, siap grenêd sydd wedi colli ei modrwy #CylchgrawnGolwg ✍️ Manon Steffan Ros

Cyfeillgarwch Ewrop a’r UDA ar ben Y gwirionedd syml ydi bod rhyfel poeth rhwng Rwsia ac Ewrop yn bosibiliad gwirioneddol erbyn hyn #CylchgrawnGolwg ✍️ Jason Morgan

Cyhoeddi’r Ysgrifau Beirniadol eto “Mi fyddwn i yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw beth dadleuol fel yna i’w ddweud, mae croeso iddyn nhw gysylltu â chyfrannu” #CylchgrawnGolwg ✍️ Non Tudur

Morgannwg yn rhoi cytundeb i Gymro Cymraeg Mae Callum Nicholls, cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Rhydfelen, wedi llofnodi cytundeb ieuenctid (rookie) gyda’r sir ar gyfer tymor 2025

Rheolwr dros dro Abertawe wrth y llyw am o leiaf bedair gêm arall Bydd Alan Sheehan yn arwain y tîm o’r ystlys tan o leia’r gemau rhyngwladol nesaf

Ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn dewis addysg Gymraeg i’w plant Mae’r elusen Oasis yn cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghaerdydd

Podlediad Nigel Owens yn trafod y pwysau wrth gystadlu ar y lefel uchaf Bydd ‘Dan Bwysau’ yn lansio ar BBC Sounds ddydd Mawrth (Mawrth 4), ac yn serennu’r ymladdwr crefftau ymladd cymysg Brett Johns #chwaraeon

Mam yn cyfaddef iddi ladd ei mab chwech oed Roedd Karolina Zurawska wedi gwadu llofruddio Alexander Zurawski yn eu cartref yn Abertawe

Geraint Jarman wedi marw’n 74 oed Bu farw’n sydyn, medd ei deulu #cerddoriaeth

Buddug yn brif enillydd Gwobrau’r Selar Enillodd hi bedair gwobr yn y seremoni yn Aberystwyth dros y penwythnos #cerddoriaeth

Atal y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg wrth galon strategaeth Cyngor Powys Bydd cynghorwyr yn derbyn copi drafft o’r strategaeth ar gyfer y bum mlynedd nesaf mewn cyfarfod ddydd Mawrth (Mawrth 4) ✍️ Elgan Hearn (Gohebydd Democratiaeth Leol)

Cynnydd o fwy na 37% yn nifer yr aelwydydd LHDTC+ sy’n maethu Mae galw o’r newydd ar i fwy o bobol LHDTC+ ystyried mabwysiadu neu faethu

Llyfr newydd yn codi cwestiynau am lofruddiaeth Gerald Corrigan Cafodd y llofrudd, Terry Whall, ei garcharu am 31 mlynedd, ond mae’r rheswm am y llofruddiaeth yn dal yn ddirgelwch

Cyhoeddi beirniaid, dyddiadau pwysig a lleoliad seremoni Llyfr y Flwyddyn 2025 Bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2025 yn cael ei chynnal yn Theatr y Sherman, Caerdydd ar nos Iau, Gorffennaf 17

Beth pe bai Cymru a Lloegr yn rhyfela dros ddŵr? “Mae Eben yn gymeriad tanbaid, tanllyd, yn genedlaetholwr i’r carn… byddai rhai efallai yn ei alw yn eithafol” #CylchgrawnGolwg ✍️ Non Tudur

🗣 Colofn Dylan Wyn Williams: Tipyn o Stad Plaid Cymru yn cyhuddo Llafurwyr San Steffan o roi’r blaid uwchlaw’r wlad, ar ôl iddyn nhw wrthwynebu datganoli Ystad y Goron eto’r wythnos hon. #safbwynt #gwleidyddiaeth ✍️ Dylan Wyn Williams

🗣 Tair stori Fy rhan, nos a Holy Joe voices #safbwynt ✍️ Y Parchedig Owain Llŷr Evans

Francesca Sciarrillo Mae wedi dechrau cyflwyno podlediad yn ddiweddar, Sut i Ddarllen, lle bydd yn trafod pob math o agweddau ar ddarllen gyda gwesteion #CylchgrawnGolwg #llyfrau

Jazz-pop Alis Glyn “Mae yna gymaint o gyfleoedd yma a dw i wedi cael cymaint o brofiadau gwych yn gigio yng Nghymru” #CylchgrawnGolwg #cerddoriaeth ✍️ Efa Ceiri

🗣 Mynnu’r un parch i ddiwylliant ag i’r amgylchedd Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg i’w ganmol am ddadlau’r angen ar i gadarnleoedd Cymraeg gael yr un math o amddiffyniad ag ardaloedd ecolegol #safbwynt ✍️ Huw Prys Jones

Caffis Cymru: Cnoi cil dros baned Lisa Jones, perchennog caffi Diod a Cegin Diod yn Llandeilo sydd wedi bod yn cael sgwrs dros baned ✍️ Bethan Lloyd

🗣 Cegin Medi: Cawl Tatws, Cennin a Phedwar Caws Digon i fwydo pump o bobol am £1.07 y pen #safbwynt ✍️ Medi Wilkinson

Y gemydd sy’n gweithio yn ei gardd “Mae yna dipyn o bobol wedi gofyn am amlinelliad eu ci nhw fel comisiynau. Mae gen i ddau gi hefyd a dw i bob tro’n meddwl bod hynna’n ciwt” #CylchgrawnGolwg ✍️ Cadi Dafydd

Llun y Dydd Mae’r gymuned leol yng Nghricieth wedi gwau a chrosio arddangosfa arbennig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

Cwis Mawr y Penwythnos Faint ydych chi’n ei gofio am straeon yr wythnos? #cwis ✍️ Elin Wyn Owen

“Rhoi sylw i’r pethau bregus” Cafodd Shimli, ail albwm Cynefin, ei henwi’n ‘Albwm Werin Y Mis’ gan bapur newydd The Guardian yn ddiweddar #CylchgrawnGolwg ✍️ Cadi Dafydd

‘Troseddwr yr Awr’ yn ennill Cân i Gymru 2025 Cafodd ‘Troseddwr yr Awr’ gan y band Dros Dro ei dewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus #cerddoriaeth

📹 Dafydd Iwan yn canu dehongliad newydd o’r anthem “er mwyn uno Cymru” Bydd y pefformiad newydd i’w weld ar S4C am y tro cyntaf yn ystod egwyl olaf Cân i Gymru heno (Chwefror 28) #cerddoriaeth

Endometriosis: “Peidiwch â chau’r drws ar y posibilrwydd fod ganddoch chi’r cyflwr” Wedi blynyddoedd o ddioddef a diffyg atebion, roedd Elen Wyn “eisiau diagnosis” yn y pen draw ✍️ Efa Ceiri

Rhagor o gerddoriaeth Gymraeg ar orsaf radio gymunedol Bro Morgannwg Mi fydd Bro Radio’n darlledu mwy o gynnwys yn y Gymraeg wedi llwyddiant eu cyfraniadau at Ddydd Miwsig Cymru

Gigs lleol “yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach” na’r gwyliau mawr Er mwyn sicrhau nad yw hanes yn mynd yn “angof”, bydd plac newydd yn cael ei osod ar hen swyddfa Ankst ym Mhenygroes #cerddoriaeth ✍️ Efa Ceiri

Derbyn ‘cynigion hyfyw’ ar ddyfodol campws Llanbed Mewn cyfarfod cyhoeddus ddoe (dydd Iau, Chwefror 27), cadarnhaodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant nad oes bwriad cau’r campws yn gyfan gwbl

Cytundeb yn galluogi Catalwnia i ddyblu’r dreth dwristiaeth Bydd peth o’r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer polisïau tai

Unigedd, cymuned, a rhwystredigaeth: Galaru am feirw Covid Bum mlynedd ers dechrau’r pandemig, Barbara Hebert, Cyfarwyddwr cangen Gymreig Covid Bereaved Families for Justice, sy’n adlewyrchu ar ei phrofiadau ✍️ Efan Owen

200 o weithwyr gofal iechyd o India i ymuno â Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi yn y gweithlu presennol ac i hyfforddi gweithlu’r GIG ar gyfer y dyfodol.

Darren Millar: “Hen bryd” troi Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi anfon llythyr agored at y Prif Weinidog Syr Keir Starmer #gwleidyddiaeth

Galw am fwy o gefnogaeth i ffermwyr, busnesau a chymunedau Mae Ann Davies wedi traddodi araith Gŵyl Ddewi yn San Steffan

Galw am gefnogi datganoli Ystad y Goron yn Rhondda Cynon Taf Bydd cynnig yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar Fawrth 5 #gwleidyddiaeth ✍️ Anthony Lewis (Gohebydd Democratiaeth Leol)

Cyhoeddi artistiaid cyntaf Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2025 Mae enwau rhai o’r artistiaid fydd yn perfformio eleni wedi’u cyhoeddi. #cerddoriaeth

“Mae nyrsys wedi’u brawychu, a dyna ydy’r norm bellach”: Nyrsio, bum mlynedd wedi’r pandemig Nicky Hughes, Cyd-gyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru, sy’n egluro effaith Covid-19 ar y proffesiwn ✍️ Efan Owen