Profile avatar
newyddion.s4c.cymru
Y newyddion a’r straeon gorau o Gymru a'r Byd. Os oes gennych chi stori, cysylltwch â’r tîm 💻📱➡️ [email protected]
1,219 posts 1,698 followers 94 following
Prolific Poster

⛰️ 'Mae’r cytundeb yn mynd at wraidd ein hunaniaeth Gymreig' Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gobeithio gefeillio gyda Pharc Cenedlaethol ym Mhatagonia, yn yr Ariannin

🌼 Wrth gyhoeddi neges Dydd Gŵyl Dewi am y tro cyntaf fel Prif Weinidog, mae Eluned Morgan yn dweud y bydd yn parhau i weithio tuag at 'greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach'.

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🌼 Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb - sut fyddwch chi'n dathlu diwrnod ein Nawdd Sant heddiw?

🎤 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Llongyfarchiadau mawr i Dros Dro - enillwyr Cân i Gymru 2025 gyda’r gân, Troseddwr yr Awr #CiG2025

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cynnal ymchwiliad yng Nghadeirlan Bangor yn dilyn pryderon diogelu ‘difrifol iawn’. newyddion.s4c.cymru/article/26813

'Mae mynd i’r clwb ieuenctid wedi helpu’n fawr gyda fy hyder ac ymddygiad' Mae cynllun rhwng clybiau ieuenctid ac ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent wedi ei sefydlu yn y gobaith o wella presenoldeb disgyblion ysgol yn yr ardal. newyddion.s4c.cymru/article/26790

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎼 'Cân sydd yn dod â phawb at ei gilydd.' Mae @s4c.cymru wedi rhyddhau fersiwn newydd o’r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau, wedi ei pherfformio gan y canwr Dafydd Iwan. newyddion.s4c.cymru/article/26812

Mae dyn 81 oed o’r gogledd wedi ei garcharu ar ôl i lys ei gael yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Mae dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron ddydd Gwener wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn o Wrecsam. newyddion.s4c.cymru/article/26808/

Mae dyn o Rydaman wedi ei garcharu am bum mlynedd a phedwar mis ar ôl pledio'n euog i dreisio dynes yn ei chartref ei hun. newyddion.s4c.cymru/article/26807

Mae cyn-athro mewn ysgol yn y gogledd wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o bron i 30 achos o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant. newyddion.s4c.cymru/article/26804

'Da ni ddim yn sdopio dim byd.' Mae Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi wfftio unrhyw awgrymiadau bod campws Prifysgol Llanbedr Pont Steffan i gau. newyddion.s4c.cymru/article/26799

Mae mam a gollodd ei bysedd i sepsis wedi cael rhai newydd gan feddygon mewn ysbyty yn Abertawe. newyddion.s4c.cymru/article/26800

👏 Llongyfarchiadau i Gorwel Owen! Y cerddor a'r cynhyrchydd yw enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni. newyddion.s4c.cymru/article/26798

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇮🇳'Elwa ar gyfoeth o wybodaeth' Bydd 200 o nyrsys a meddygon o Kerala yn India yn cael eu recriwtio i weithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

'Ni'n genedl ddwyieithog - bydde hwnna’n fwy credadwy mewn ffordd' Mae'r DJ Gareth Potter yn dweud bod "cyfle yn cael ei golli" wrth beidio cynnwys y Gymraeg mewn addasiadau Saesneg o ddramâu teledu.

"Cefnogaeth mae’r bobl yma eisiau, dim beirniadaeth." Mae cyn-lywydd Llys yr Eisteddfod yn dweud bod angen 'symud ymlaen' o helynt y Fedal Ddrama a'i fod yn poeni am yr effaith mae'r ffrae yn ei gael ar staff y brifwyl.

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Mae angen i bobl gael ‘amser i fwynhau’ Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru, yn ôl AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts. newyddion.s4c.cymru/article/26794

👑 Mae'r Brenin wedi gwahodd Donald Trump am ail ymweliad gwladol â'r Deyrnas Unedig. 🟠 A fyddwch chi'n falch o'i weld yn ôl?

Mae teulu dyn a gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref yn Wrecsam wedi rhoi teyrnged iddo. newyddion.s4c.cymru/article/26793

📲 'Mae'n fyd cynyddol ddigidol.' Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod am gau a gwerthu pum gorsaf heddlu. 👇 newyddion.s4c.cymru/article/26788

Fe wnaeth ffermwr o Fôn gladdu car a ddefnyddiwyd gan ei gyn-bartner a pherson arall wrth ddwyn o dŷ gwraig weddw. newyddion.s4c.cymru/article/26791

Mae ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged i brifathro 'angerddol' yn dilyn ei farwolaeth. newyddion.s4c.cymru/article/26787

Mae dyn 19 oed o’r de wedi marw ychydig fisoedd yn unig ar ôl cael gwybod bod ganddo diwmor prin ar yr ymennydd.

⚽️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 'Rhoi Cymru ar lwyfan byd-eang' Mae cronfa gwerth £1 miliwn wedi ei sefydlu i geisio 'cynyddu'r nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon', cyn ymddangosiad hanesyddol tîm merched Cymru yn Euro 2025 eleni.

📚 ‘Da ni’n wynebu dyfodol ansicr ar hyn o bryd' Mae Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru yn dweud bod yr heriau yn parhau i’r sector gyhoeddi yng Nghymru wedi addewid o arian ychwanegol gan y Llywodraeth.

Newyddion hynod o drist o America. Cafodd yr actor Gene Hackman a'i wraig Betsy Arakawa eu darganfod yn farw yn eu cartref brynhawn dydd Mercher yn nhalaith Mecsico Newydd.

Bydd cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol campws Prifysgol Llanbedr Pont Steffan yn cael ei gynnal yn y dref ddydd Iau. Fis diwethaf, daeth cyhoeddiad y bydd cyrsiau’r Adran Ddyniaethau ym Mhrifysgol Llanbed yn cael eu symud i Gampws Caerfyrddin.

Mae cyn Archdderwydd ymhlith nifer sydd wedi galw am gyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod i drafod atal y Fedal Ddrama y llynedd.

Mae cyn Archdderwydd ac eraill wedi galw am gyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod i drafod atal y Fedal Ddrama y llynedd. newyddion.s4c.cymru/article/26655

Mae dau ddyn wedi eu carcharu am dyfu £2m o ganabis mewn hen ysgol yn Llandysul, Ceredigion. newyddion.s4c.cymru/article/26773

Mae dyn o ardal Wrecsam wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod dros y penwythnos.

Cafodd ei weld ddiwethaf i’r de ddwyrain o Lyn Tegid newyddion.s4c.cymru/article/26772

Mae dyn wedi’i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ar ôl i ferch dair oed gael ei lladd wedi gwrthdrawiad rhwng fan a thram. newyddion.s4c.cymru/article/26764

🐶 Mae tri chi wedi cael eu hachub o dân mewn tŷ yng Ngheredigion. newyddion.s4c.cymru/article/26765

🎵 Bydd system bleidleisio Cân i Gymru yn newid eleni newyddion.s4c.cymru/article/26760

⚽ 'Dwi’n meddwl fod chwarae efo pobl iau wedi helpu i mi aros yn ifanc fy hun.' Mae gŵr o Landudno sydd dal i chwarae pêl-droed yn 92 oed yn credu mai ef yw’r gôl-geidwad hynaf yn y byd. newyddion.s4c.cymru/article/26751

Mae tri dyn wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad â chyllell yng Nghaerdydd. Mae un person yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol. newyddion.s4c.cymru/article/26763/

🦁 Bydd rhai o atyniadau Cymru yn cau ar Ddydd Gŵyl Dewi fel rhan o brotest yn erbyn ‘polisïau gwrth-dwristiaeth’ Llywodraeth Cymru. newyddion.s4c.cymru/article/26757

🥊 ’Dw i'n cofio cwrdd â Joe Calzaghe… roeddwn i'n star struck!’ O Las Vegas i Uzbekistan, mae un Gymraes yn teithio'r byd yn gweithio gyda'r bocswyr mwyaf enwog. newyddion.s4c.cymru/article/26748

Mae dwy ddynes wedi marw o fewn cyfnod o wythnos ar ôl syrthio yn Eryri.

💻 Mae bron i naw ym mhob 10 myfyriwr yn y DU wedi defnyddio AI i helpu gyda’u gwaith prifysgol. Wyt ti’n meddwl bod ‘na fanteision i ddefnyddio AI? newyddion.s4c.cymru/article/26754

Mae dyn wedi ei arestio wedi i ddynes farw ar fferi a deithiodd o Abergwaun yng Nghymru i Rosslare yng Ngweriniaeth Iwerddon. newyddion.s4c.cymru/article/26755

👏 Canlyniad gwych i Gymru sydd wedi sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn erbyn 5ed tîm gorau'r byd Sweden ar y Cae Ras

Mae dau gwmni sydd yn gobeithio adeiladu 10 o ffermydd gwynt mawr ar draws Cymru wedi derbyn hwb ar ôl derbyn buddsoddiad o £600 miliwn o gronfa egni adnewyddol

🏃 Fe ddylai meddygon teulu rhoi presgripsiynau i bobl cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol i redeg mewn parc, medd elusen

🤕 Mae disgwyl i Ethan Ampadu yn amheuaeth fawr ar gyfer dechrau ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ddiwedd mis Mawrth

Mae Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi y bydd £13.4 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei wario am amddiffyn erbyn 2027