Gair y Dydd: dôr https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?dôr Dyma enw am ddrws y mae'r cofnod cyntaf ohono i'w weld mewn glosau sy'n dyddio o’r ddegfed ganrif. Defnyddir ef hefyd yn ffigurol am amddiffynnwr, megis gan Ddafydd ap Gwilym mewn awdl i Ifor Hael - 'ddewraf ddôr'.
Comments
"Ar Pearl Street, ar wal iard-cefn-tŷ â dôr goch yn ei chanol, mae ‘na raffiti. Murlun sy’n gyson newid ydyw. Wrth i’r paent a’r geiriau bylu fe’u hadnewyddir yn llwyr. Dyma berlau Pearl Street mewn mwy nag un ystyr."
https://yrhenddeurodiwr.wordpress.com/2020/04/15/canfod-perlau/