Profile avatar
geiriadur.bsky.social
58 posts 159 followers 11 following
Prolific Poster

Gair y Dydd: dôr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dyma enw am ddrws y mae'r cofnod cyntaf ohono i'w weld mewn glosau sy'n dyddio o’r ddegfed ganrif. Defnyddir ef hefyd yn ffigurol am amddiffynnwr, megis gan Ddafydd ap Gwilym mewn awdl i Ifor Hael - 'ddewraf ddôr'.

Gair y dydd: croeso'r gwanwyn geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Enw hyfryd a theilwng iawn ar y cennin Pedr, sy'n serennu o flaen y Llyfrgell a'r Ganolfan y bore 'ma. Mae enwau eraill ar y blodyn yn cynnwys daffodil, blodau Mawrth, tomdili, menig euron a'r lili bengam. Pa enwau sy'n gyfarwydd i chi?

Gair y Dydd diplomatiaeth www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Diplomateg, medr i drin materion cydwladol, deheurwydd y gwleidydd

Gair y dydd: dimai ‘hanner ceiniog’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Er i’r darn arian gael ei dynnu o gylchrediad yn Rhagfyr 1984, parheir i ddefnyddio’r gair mewn ymadroddion megis (dim) dimai goch ‘(not) a single halfpenny’.

Gair y Dydd: brwydr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ar y 24 Chwefror 1797 daeth Brwydr Abergwaun neu Laniad y Ffrancod i ben. Hon oedd yr ymgais ddiwethaf gan lu milwrol tramor i oresgyn tir mawr Prydain.

Gair y Dydd: yfed geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Un ystyr iddo yw ‘yfed (alcohol), hefyd i ormodedd’. Tybed a fu rhai ohonoch yn dathlu achlysur dros y penwythnos, neu’n boddi gofidiau? Os felly, beth yw eich gair chi i ddisgrifio’r pen tost y bore wedyn, sef yr ‘hangover’?

Gair y Dydd: genau-goeg geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - Enw arall ar fadfall, am fod ganddo enau 'gau', sef ceg gyfyngach nag sydd gan y nadroedd a heb na brathiad na gwenwyn. Ceir amryw enwau ar yr ymlusgiad, gan cynnwys budrchwil, ethrychwil a gwedresi. Pa enw sy'n gyfarwydd i chi?

Gair y Dydd dyhuddiad www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Cymodiad; (mewn gwleidyddiaeth) ymgais i ddiddigio a chymodi â'r gwrthwynebwr neu'r gelyn yn y gobaith o gael heddwch.

Gair y dydd: DAROGAN geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., proffwydoliaeth neu frud, sef y math o farddoniaeth a gysylltir mewn llawysgrifau canoloesol ag enw Myrddin neu Fyrddin Wyllt, ac sydd i’w gweld ar wefan newydd sbon: myrddin.cymru gan @prosiectmyrddin.bsky.social

Gair y Dydd: y Mis Bach geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Dyma ran o delyneg Eifion Wyn i fis Chwefror. Tybed ym mha ardaloedd y mae ‘y mis bach’ yn gyfarwydd fel enw arall arno?

Gair y Dydd: dant geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... I ofalu am eich dannedd, peidiwch dilyn cyngor Meddygon Myddfai o’r 14g. - ‘sych dy danned a risc y coll sychyon’ – mae past dannedd a brwsh llawer mwy hwylus!

Gair y dydd: congrinero geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - enw wedi'i fenthyg o'r Saesneg 'conquering hero' am gampwr neu fuddugwr, ac a ddefnyddir yn gellweirus am ffug arwr. Dyma'r enw ar ddrama newydd gan Angharad Price am fywyd cynnar T. H. Parry-Williams, sydd ar daith ar hyn o bryd.

Gair y Dydd gwiblun www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Llun symudol a dynnwyd ar gyfer y sinema, ffilm. Blas hen ffasiwn ar y gair bellach!

Gair y dydd: golau1 www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... yn ystyr adran (c) ‘un o’r unedau yn hyd sièd wair’.

Gair y dydd: herber geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Mae’n golygu ‘gardd lysiau neu flodau, deildy, perllan’ ac ati ac yn elfen sy’n digwydd mewn nifer o enwau lleoedd.

Gair y Dydd: gwyddbwyll geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Un o’r pedair camp ar hugain a chwaraeid yn Nghymru'r Oesodd Canol, sies, tawlbwrdd. Ar y dydd hwn yn 1996, enillodd yr uwchgyfrifiadur Deep Blue y gêm gyntaf mewn cystadleuaeth yn erbyn yr uwchfeistr gwyddbwyll Rwsieg, Garry Kasparov.

Gair y dydd: cufydd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - Dyma'r enw ar hen fesur hyd, sef hyd y fraich o'r penelin i flaen yr hirfys - sy'n mesur rhwng 18 a 22 modfedd. Enw arall ar y mesur hyd hwn yw 'cyfelin'.

Gair y Dydd: og www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Offeryn amaethyddol ar lun ffrâm a lusgir dros dir âr i dorri tywyrch, lladd chwyn, gorchuddio had; gair arall am oged Gan Jean-Pierre Van Overmeire CC BY-SA 4.0 commons.wikimedia.org/wiki/Categor...

Gair y dydd: GLEUAD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... sef tail gwartheg wedi sychu'n grimp ac a ddefnyddid ers talwm fel tanwydd ar aelwydydd tlawd. "Gwaetha tân yw tân gleuad" meddai hen bennill o'r 17 ganrif - mae hynna'n siŵr o fod yn wir .... oni wyddoch chi'n wahanol!

Gair y Dydd: eirlys geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Un o flodau cyntaf y gwanwyn a’i enw’n gyfuniad o eira, eiry a llys (llysieuyn). Mae rhai o’i enwau eraill hefyd, fel blodeuyn yr eira a thlws yr eira, yn dangos ei fod yn cael ei gysylltu â’r math hwnnw o dywydd.

Gair y Dydd: coffi geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae coffi'n ddiod poblogaidd ers amser maith, ond syndod oedd gweld cyfeiriad ato wedi ei briodoli i'r Esgob Richard Davies yn yr 16g. - 'Rhowch odart a chwart i chwi a chap / a chwppan o goffi / a phib wenn wedi llenwi'. Ydych chi'n hoffi coffi?

Gair y dydd: Zwinglïaidd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - sef yn perthyn i’r diwygiwr crefyddol o'r Swistir Ulrich Zwingli (1484–1531) neu i'w ddysgeidiaeth. Dyma'r gair olaf un sydd wedi'i gynnwys yn ein Geiriadur print ac ar-lein - hyd yn hyn!

Gair y Dydd ôl troed www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Marc a adewir gan droed anifail, dyn, &c. www.pickpik.com/paw-print-do...

Gair y Dydd: neidr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae heddiw'n ddechrau'r flwyddyn newydd Tsieineaidd: blwyddyn y neidr.

Gair y Dydd: gwladgarwyr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – un o’r geiriau amlwg yn ein hanthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau, a gyfansoddwyd gan Evan a James James o Bontypridd ddechrau 1856.

Gair y Dydd: llythyr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Ar y dydd hwn yn 1741, ganwyd Hester Salusbury ger Pwllheli. Bu'n gyfaill mawr i'r geiriadurwr Dr Samuel Johnson, ac wedi ei farwolaeth, cyhoeddodd gyfrol o'u gohebiaeth - 'Letters to and from the late Samuel Johnson, LL.D'. (1788).

Gair y dydd: llatai geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - sef negesydd serch. Un bardd sy'n enwog am ddefnyddio confensiwn y llatai yn ei gerddi yw Dafydd ap Gwilym. Yn ei gerdd sy'n 'Galw ar Ddwynwen', mae'n ymbil ar y Santes i fyned yn llatai rhyngddo a Morfudd, un o'i 'gariadon' priod.

Gair y Dydd: brigwyn geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ewyn gwyn ar fôr garw; o ansoddair sy hefyd yn golygu penwyn, neu â'r brig neu'r grib yn wyn. Ydy'n air gyfarwydd i chi?

Gair y dydd: LLOERGAN geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Gair hyfryd, â thinc braidd yn llenyddol, am olau disgleirwyn y lleuad. Mae'n cynnwys yr un elfen CAN 'gwyn' ag a welir yn y ferf CANNU am wynnu dillad (Saes. bleach).

Gair y Dydd: perth geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ai perthi fyddech chi’n galw’r hyn sydd yn y llun? Mae ‘perth’ hefyd yn digwydd mewn enwau lleoedd yng Nghymru ac yn gysylltiedig ag enwau yng Nghernyw a’r Alban.

Gair y Dydd: entrychdy geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Gwelir nifer o entrychdai yn yr olygfa ddinesig hon!

Gair y dydd: mawrddrwg geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - hefyd y ffurfiau 'mwrddrwg', 'mowrddrwg' a 'mwddrwg' ar lafar. Enw annwyl a ddefnyddir i gyfarch plentyn direidus. Ydych chi'n gyfarwydd â'r gair hwn? Pa eiriau eraill fyddech chi'n eu defnyddio? 📷BBC IPlayer

Gair y Dydd: manddant geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Dant mân; un o’r blociau bach sgwâr a osodir yn rhes ddanheddog fel addurn pensaernïol ar golofnau &c.

Gair y Dydd: sebon geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Yn ogystal â’r ystyr gyffredin ‘cyfrwng glanhau’, mewn enwau lleoedd gall fod yn gyfeiriad at afon neu nant lawn trochion neu ewyn, neu at garreg sebon ‘soap-stone, steatite’ a ddefnyddid gynt i olchi.

Gair y Dydd: gregar geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – un o nifer o eiriau am y sŵn a wneir gan ieir. Mae sawl un arall – clegar, clochdar, clwcian, ac ati – yn y Geiriadur. Beth fyddwch chi’n ddweud?

Gair y Dydd: sinsir geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Defnyddir sinsir fel sbeis ac mewn meddyginiathau traddodiadol. Mae '[p]owdr singir' yn dda ar gyfer gwella colic yn ôl y Welsh Leech Book (16g.) - rhaid ei gymysgu mewn 'hanner llwyaid o gwrwf da ac yfed y claf ef ucher a bore'!

Gair y dydd: gïach geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Un enw ar yr aderyn isod sy'n dynwared y sŵn a wna wrth i’r gwynt ruthro drwy blu’r gynffon agored a’r adenydd ar led ar ei hedfa tua’r ddaear, ac yn enw hefyd ar ddiferyn gloyw sy'n hongian ar flaen trwyn dyn ar ddiwrnod oer fel heddiw💧

Gair y Dydd: eirafyrddio geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Defnyddio bwrdd byr a llydan tebyg i sgi i lithro i lawr eira ar lethrau. Oes digon o eira ble'r ydych chi heddiw?

Gair y dydd: BWMBWL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Gair a ddefnyddid yn yr 17eg ganrif am gloch ddŵr neu swigen law. Mae BWMBWL yn fenthyciad o'r Saesneg bubble, gyda'r m wedi tyfu o flaen y b yn y gair Cymraeg. Beth yw eich gair chi?

Gair y Dydd: meirioli geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ydy'r eira a'r rhew yn meirioli neu'n dadlaith neu'n dadmer erbyn hyn ar ôl y tywydd rhewllyd dros y penwythnos?

Gair y Dydd: Ystwyll geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., neu 'seren-ŵyl', a ddisgrifiwyd fel 'dydd y tri brenin' gan David Ellis yn 1776.

Gair y dydd: Nadolig geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - yr wythnos nesaf, byddwn yn dathlu 'un o'r teyr guyl arbennyc, ay Nodolyc ay Pasch ay Sulguyn' yn ôl Llyfr Colan o'r 13g. Dethlir gŵyl y Nadolig ar 25 Rhagfyr, a hefyd yn y cyfnod rhwng 24 Rhagfyr a 6 Ionawr. Nadolig Llawen i bawb!

Gair y Dydd: hirglust geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Clust hir; ac iddo glust(iau) hir. Mae'r sgwarnog neu ysgyfarnog yn hirglust, ac mae ysgyfarn yn hen air am glust. CC BY 3.0 Shah Jahan en.wikipedia.org/wiki/Hare#/m...

For the December 2024 LEIGHEAS project blog, our brilliant research affiliate Dr Sharon Arbuthnot of the Dictionary of the Irish Language (www.dil.ie) considers the challenges of dating medieval Irish medical texts & their vocabulary. Happy reading! 👇 leigheas.maynoothuniversity.ie/dating-medie...

Cath lygod (Thomas Wiliems, Trefriw, 1604-7) = mouse trap (Thomas Thomas, 1587)

Gair y dydd: bronrhuddyn www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'n hen enw am robin goch, sy'n digwydd yng ngwaith y bardd Gutun Owain (15fed ganrif). Hen enwau eraill ar yr aderyn bach annwyl hwn yw cochgam, rhuddog, brongoch, a bolgoch.

Gair y Dydd: uchelfa geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Mae William Salesbury yn ei Lysieulyfr yn disgrifio’r planhigyn yn tyfu ar goed derw ‘yn gant o gymale cyngoc yn gweu yn ei gilydd ac a elwir yn Llatin Viscum yn Saesonac Myseltoe ac yn Camberaec yr Vchelfa.’

Gair y dydd: ysgewyll geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - yn enw arall am flagur, egin ac ysbrigau, yn ogystal â'r llysieuyn traddodiadol a dadleuol isod sy'n rhan o arlwy'r cinio Nadolig. Ai'r ysgewyll Brwsel yw'ch hoff ynteu'ch cas lysieuyn chi? 📸Eric Hunt

Gair y Dydd: gwenci geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... [gwanc+ci] Creadur bychan ysglyfaethus, brown â bola gwyn o dylwyth y carlwm a’r ffured, bronwen, Mustela nivalis nivalis; (yn ffigyrol) person bychan ffyrnigwyllt